Chen Xitong

Chen Xitong
Ganwyd10 Mehefin 1930 Edit this on Wikidata
Sir Anyue Edit this on Wikidata
Bu farw2 Mehefin 2013 Edit this on Wikidata
o canser colorectaidd Edit this on Wikidata
Beijing Edit this on Wikidata
DinasyddiaethGweriniaeth Pobl Tsieina Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Prifysgol Peking Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd Edit this on Wikidata
Swyddmaer Beijing, Secretary of the Beijing Committee of the Chinese Communist Party, National People's Congress deputy Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolPlaid Gomiwnyddol Tsieina Edit this on Wikidata

Gwleidydd Tsieineaidd oedd Chen Xitong (10 Mehefin 19302 Mehefin 2013)[1] oedd yn Faer Beijing o 1983 hyd 1993.

Ganwyd yn Sichuan ac astudiodd lenyddiaeth Tsieineeg ym Mhrifysgol Pecin. Ymunodd â'r Blaid Gomiwnyddol ym 1949. Roedd Chen yn faer y brifddinas Beijing yn ystod protestiadau Sgwâr Tiananmen ym 1989. Yn ôl nifer, gan gynnwys y Prif Weinidog Li Peng[2] ac Ysgrifennydd Cyffredinol y Blaid Gomiwnyddol Zhao Ziyang,[3] roedd Chen yn allweddol wrth ormesu'r protestiadau. Gwadodd Chen yr oedd ganddo ran yn y penderfyniadau ac yn hwyrach dywedodd bod y gormes yn "drasiedi ofidus".[2] Ef oedd yr unig swyddog cyhoeddus uwch a fynegodd ofid am y cyflafan,[3] ond hyd ei farwolaeth roedd yn symbol o greulondeb y llywodraeth Tsieineaidd yn Tiananmen.[4] Ym 1992 dyrchafwyd Chen yn Ysgrifennydd Plaid Gomiwnyddol Beijing ac yn aelod o'r Politburo.[1]

Cafodd Chen ei ddiswyddo ym 1995 ynghylch sgandal yn Beijing, ac ym 1998 cafwyd yn euog o lygredigaeth ac esgeuluso'i ddyletswydd a chafodd ei ddedfrydu i garchar am 16 mlynedd. Mae'n bosib yr oedd cwymp Chen o ganlyniad i'w berthynas elyniaethus â'r Arlywydd Jiang Zemin. Cafodd Chen ei ryddhau o'r carchar ar barôl am resymau meddygol yn 2006.[3] Bu farw o ganser y colon yn 2013, tri mis cyn i'w ddedfryd dod i ben.[2]

  1. 1.0 1.1 (Saesneg) Childs, Martin (7 Mehefin 2013). Chen Xitong: Disgraced former mayor of Beijing. The Independent. Adalwyd ar 7 Mehefin 2013.
  2. 2.0 2.1 2.2 (Saesneg) June 4 crackdown mastermind Chen Xitong dies. South China Morning Post (4 Mehefin 2013). Adalwyd ar 7 Mehefin 2013.
  3. 3.0 3.1 3.2 (Saesneg) Buckley, Chris (5 Mehefin 2013). Chen Xitong, Beijing Mayor During Tiananmen Protests, Dies at 82. The New York Times. Adalwyd ar 7 Mehefin 2013.
  4. (Saesneg) Chen Xitong: Timely passing. The Economist (5 Mehefin 2013). Adalwyd ar 7 Mehefin 2013.

Developed by StudentB